U (Cyffredinol) – Addas i bawb. Dylai ffilm sydd â dosbarthiad U fod yn addas i gynulleidfaoedd sy’n bedair oed a hŷn.

PG (Arweiniad i Rieni) – Dangosiad cyffredinol, ond gall rhai golygfeydd fod yn anaddas i blant ifanc. Ni ddylai ffilm PG gythryblu plentyn oddeutu wyth oed neu’n hŷn.

12A – Ffilm newydd yn y sinema sy’n addas i rai 12 oed neu’n hŷn. Ni ddylai neb ieuengach na 12 weld ffilm dosbarthiad 12A mewn sinema oni bai ei fod yng nghwmni oedolyn.

12 – Ffilm newydd ar fideo sy’n addas i rai 12 oed neu’n hŷn. Ni ddylai recordiadau fideo gyda’r dosbarthiad hwn gael eu rhoi i unrhyw un dan yr oed hwnnw.

15 – Addas i rai 15 oed a hŷn yn unig. Ni chaniateir i neb dan 15 weld ffilm dosbarthiad 15 yn y sinema neu brynu/rhentu fideo dosbarthiad 15.

18 – Addas i oedolion yn unig. Ni chaniateir i neb dan 18 weld ffilm dosbarthiad 18 yn y sinema neu brynu/rhentu fideo dosbarthiad 18.

Holyhead Town Council